
Teithiau cerdded yn yr ardal English
Arfordir Copr P’un ai ydych chi’n chwilio am olygfeydd anhygoel o’r môr, morlin gwyllt ddigyffwrdd neu gyfle i weld tirlun unigryw Mynydd Parys, sy’n debyg i wyneb y lleuad, mae nifer o opsiynau ar gael i ymwelwyr. Mae teithiau cerdded tywysedig rheolaidd drwy gydol y flwyddyn (walkamlwch.co.uk), teithiau cerdded tywys eich hunain gan ddefnyddio mapiau o’r daith neu’r llwybrau a ddangosir drwy arwyddbyst ar lwybr yr arfordir a’r mynydd a Gŵyl Gerdded flynyddol Ynys Môn. Llwybr Treftadaeth Porth Amlwch Dechreuwch ym maes parcio'r Hen Lofft Hwyliau ar ochr ddwyreiniol y porth, a dilynwch yr arwyddion wedi’u rhifo. Mae mapiau o’r llwybr ar gael o Ganolfan Treftadaeth a Chaffi’r Hen Lofft Hwyliau. Mae’r llwybr yn dod i ben ar ochr gorllewinol y porth gyferbyn â’r tŵr gwylio. Mae’r llwybr yn eithaf gwastad a dylai’r daith gymryd rhwng 20 munud ac awr, a’r un fath i ddychwelyd i’r maes parcio. Cynghorir cerddwyr i gadw at y cod cefn gwlad i amddiffyn, parchu a mwynhau cefn gwlad a bod yn ofalus wrth i’r teithiau cerdded fynd â chi ar arfordir gwyllt, heibio i’r gweithfeydd mwyngloddio, pensaernïaeth ddiwydiannol sy’n adfeilio a lonydd prysur. www.walkamlwch.co.uk www.angleseycoastalpath.co.uk www.pushchairwalks.co.uk www.angleseywalkingfestival.com www.angleseywalkingholidays.com |
![]() |
|||||||||
|
||||||||||


