Rheoli

Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch

Cafodd AIHT ei sefydlu ym 1997, a’i noddi gan Marcwis Ynys Môn, fel elusen a chwmni cyfyngedig drwy warant. Ei gylch gorchwyl yw cadw treftadaeth ddiwydiannol Porth Amlwch a Mynydd Parys er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Mae Gareth Wyn Jones yn athro prifysgol wedi ymddeol gyda chefndir mewn gwaith economaidd a ffisioleg, gan gynnwys goddefgarwch metel trwm, a chemeg biolegol. Gweithiodd fel Prif Wyddonydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyfarwyddwr CAZS- Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac ef yw sylfaenydd rhwydwaith WISE. Mae wedi, ac mae’n parhau i wasanaethu ar gyrff gwirfoddol yng Nghymru fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cynnal Cymru, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn ogystal â chyrff tramor. Ei brif ddiddordeb erbyn hyn yw’r berthynas rhwng y defnydd o adnoddau naturiol cynaliadwy a datblygiad cymunedol a gwledig.

Bu David Jenkins yn Gadeirydd yn y gorffennol ac mae’n un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth. Hyfforddodd fel daearegwr a bu’n uwch ddarlithydd mewn gwyddor pridd ym Mhrifysgol Bangor, lle'r oedd ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar briddeg, mwynoleg a geocemeg. Datblygodd ei ddiddordeb fwyfwy yn y defnydd o geo-wyddoniaeth mewn archeoleg, a daeth yn Ymddiriedolwr ac yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Ers iddo ymddeol, mae hefyd wedi troi'n ôl at ei ddiddordeb gwreiddiol mewn hen fwyngloddiau metel ac yn anochel cafodd ei dynnu tuag at y rheiny ar Fynydd Parys yn arbennig, lle bu’n trafod adennill mynediad i’r mwyngloddiau tan ddaear, ac yn dilyn hynny archwilio a chofnodi’r gweithfeydd o’r 18fed a’r 19eg ganrif a hefyd cloddio ac ymchwilio’r rhai ddaeth o Oes yr Haearn.

Brian Hope yw’r ysgrifennydd ac mae’n un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth. Peiriannydd awyrenneg wedi ymddeol yw Brian a dreuliodd rhan gynharach o’i yrfa yn dylunio systemau awyrennau a thaflegrau ac yn ddiweddarach bu’n beiriannydd mecanyddol ac yn syrfëwr ymgynghorol. Mae ei ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwydiannol yn deillio o flwyddyn olaf ei radd Prifysgol Agored mewn Mathemateg a Thechnoleg pan fu’n astudio peirianneg Fictoraidd a chyn Fictoraidd. Arweiniodd hyn at weithio gydag Ymddiriedolaeth Cadw Mwyngloddiau Cymru, gweithio ar dŷ peiriannau Pearl ym Mynydd Parys ym 1995, a darganfyddo bod amrywiaeth o adeiladau diwydiannol angen eu diogelu. Mae Brian wedi ysgrifennu dau lyfr awdurdodol am hanes diwydiannol Amlwch.


David Alexander – disgwyl am y proffil

David Wagstaff – disgwyl am y proffil

 

Buddion Economaidd TGCh Cydlyniad