Teyrnas Gopr                                                                                                                                                                    English


Mae trywydd Treftadaeth Porth Amlwch yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Môn ac yn hawdd i’w gyrraedd o’r porthladd.

Cafodd gwythiennau enfawr o fwyn copr eu darganfod ar Fynydd Parys ym 1768. Dros yr hanner canrif nesaf bu cymaint o gloddio yma nes creu tirlun diwydiannol gyda’r mwyaf anghyffredin yn Ewrop. Yn anterth eu prysurdeb roedd gweithfeydd Mynydd Parys ymhlith rhyfeddodau’r byd.

Denwyd dynion fel Michael Faraday a James Watt, gwyddonwyr a pheirianwyr gorau’r oes, i ymweld â’r lle. Tra-arglwyddiaethai cynnyrch y mwynfeydd dros y farchnad gopr ryngwladol. Trawsnewidiwyd Amlwch, a oedd, gynt, yn “gilfach fechan rhwng dwy graig serth”, I fod yn brif borthladd allforio copr y byd mawr crwn. Roedd y porthladd mor brysur fel y cafwyd Deddf Seneddol ym 1793 i’w ehangu a’i arolygu.

Dan arweiniad ysbrydoledig y cyfreithiwr hynod o Fôn, Thomas Williams (Twm Chwarae Teg), daethpwyd o hyd i ddulliau newydd o ddefnyddio copr, megis fel gorchudd ar waelodion pren llongau rhyfel y llynges. Felly y llwyddodd HMS Victory Nelson i fod mor gyflym a hawdd i’w thrin ym mrwydr fuddugoliaethus Trafalgar. Ar y pryd roedd Amlwch hyd yn oed yn bathu ei cheiniogau copr ei hun!

Ar ôl i’r mwynfeuydd gael eu gwagio o gopr, datblygodd Amlwch i fod yn ganolfan adeiladu llongau a ddaeth yn enwog am eu ceinder a’u cyflymdra.

Fel rhan o’r etifeddiaeth honno mae dau le anhygoel y gallwch chi ymweld â nhw. Mae’r hen weithfeydd copr ar Fynydd Parys yn swyno’r llygad â’u creigiau coch, melyn a phiws rhyfeddol. Oherwydd eu tebygrwydd i wyneb y lleuad cafodd ffilmiau am y gofod eu saethu yma! Mae trywydd treftadaeth y mynydd yn caniatáu i chi weld â’ch llygaid eich hun y tyllau anferthol a gloddiwyd gan ddynion, a gweddillion adeiladau’r mwynwyr.

Ym mhorth Amlwch mae sawl adeilad gwreiddiol ar gael o hyd i’w harchwilio, fel y Cistiau Copr, y Tˆy Gwylio a Simneiau’r Gweithdai. Yng Nghanolfan Ymwelwyr y Llofft Hwyliau cewch bryd blasus neu browla o gwmpas y siop anrhegion. Ond peidiwch ag anghofio am yr arddangosfa o dreftadaeth adeiladu llongau byd enwog Amlwch. Mewn gwirionedd, lle gwych yw’r Porth i ymlacio a gwylio gweithgarwch yr harbwr!

Teithiau cerdded Avoca Cyfleoedd cyfartal