Mynediad / Cyfleoedd cyfartal                                                                                                                                                  English


Bydd prosiect ‘Treftadaeth Copr Celtaidd’ yn delio â materion cyfleoedd cyfartal drwy:

Hyfforddi rheolwyr prosiect i osgoi stereoteipio a rhagdybiaethau rolau traddodiadol, felly’n galluogi merched, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig i gyfrannu’n llawn;

Amlygu cyfleoedd cyfartal fel prif egwyddor ym mhob arfer cyhoeddusrwydd a gweithredol tuag at gydbwyso rhyw;

Sicrhau cyfleoedd cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg drwy fodloni anghenion cymunedau dwyieithog yn llawn;

Sicrhau bod yr holl waith cyfalaf a wneir yn cydymffurfio â gofynion anabledd;

Hyrwyddo’r holl weithgareddau ar ffurf hawdd i’w ddefnyddio, gan ddefnyddio Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg lle bo hynny’n briodol;

Annog y gymuned gyfan a budd-ddeiliaid i gymryd rhan;

Sicrhau cyfleoedd cyfartal i fyfyrwyr o bob cefndir cymdeithasol ac economaidd i gymryd rhan.

 

Teithiau cerdded Avoca Cyfleoedd cyfartal