
Amgylcheddol English
| Effaith ar systemau
afonydd: Ar hyn o bryd, mae hen fwyngloddiau copr Mynydd Parys yn effeithio ar 10 cilomedr o afonydd - 2 cilomedr o Afon Goch Amlwch tua’r gogledd ac 8 cilomedr o Afon Goch Dulas tua’r de o’r safle. Nid yw’r ddwy afon yn gallu cynnal bywyd pysgod oherwydd gollyngiadau o’r mwynglawdd. Mae’r gollyngiadau yn asidig iawn (< pH 2.3) ac yn llawn metelau, gyda lefelau uchel o sinc, copr, cadmiwm, arsenig, alwminiwm, haearn a metelau eraill. Effaith ar Fôr Iwerddon: Mae’r ddwy afon yn rhedeg i Fôr Iwerddon a rhyngddynt, maent yn gollwng rhwng 3 a 6 gwaith y copr a’r sinc sy’n cael ei ollwng i mewn i Fôr Iwerddon o’r holl afonydd eraill yng Ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr – gan gynnwys Afonydd Conwy, Dyfrdwy, Ribble a Merswy. Mae mwyngloddiau Parys a Mona ar safle Mynydd Parys yn dod yn gyntaf ac yn ail ar y raddfa effaith mewn perthynas ag effaith ar yr amgylchedd. Ffactorau cyffredin gydag Avoca Lluniau Fel rhan o’r prosiect gwaith peilot, bydd Unipure Ltd yn llunio adroddiad fonitro i gofnodi’r canfyddiadau ac i amlygu’r gost o gael gweithfeydd parhaol a faint o galch a chemegau eraill fydd eu hangen i drin pob metr ciwbig o ddŵr mwynglawdd y safle. Bydd yr adroddiad hefyd yn esbonio nodweddion y llaid sy’n cael ei gynhyrchu a sut byddai posib ailddefnyddio neu gael gwared ar y llaid hwnnw. Mae adroddiad tebyg eisoes wedi’i lunio yn dilyn astudiaeth beilot lwyddiannus yn Avoca. Unwaith y bydd adroddiad Mynydd Parys wedi’i gyhoeddi, bwriad asiantaeth yr amgylchedd yw ystyried y ffordd o gymharu â chontractio adroddiadau Avoca a Parys. |
![]() |


