Buddion Economaidd Lleol                                                                                                                                              English


Codi’r proffil fel cyrchfan i ymwelwyr.

Mae ymwelwyr yn dueddol o ymweld ag Avoca am gyfnod byr (Y Ffactor Ballykissangel). Drwy ddatblygu’r hanes treftadaeth mwyngloddio, bydd posib codi proffil Avoca. Yn y tymor hir, byddai adfer afon Avoca fel afon Eog yn denu nifer arwyddocaol o dwristiaid i bysgota. Mae Amlwch eisoes wedi sefydlu atyniad arwyddocaol yn seiliedig ar y dreftadaeth ddiwydiannol. Mae’r mwynglawdd a’r porthladd hanesyddol yn fannau pwysig iawn yn y llwybr Ewropeaidd o Dreftadaeth Ddiwydiannol. Mae canolfan i ymwelwyr wedi’i diweddaru ac mae tywyswyr hyfforddedig ar gael i gynnal teithiau o amgylch y porth a’r mynydd. Bydd nawdd gan Interreg yn cryfhau’r atyniad rhwng diwedd 2005 a chanol 2008.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy’r camau a ganlyn:

Cynhyrchu Mapiau a llyfrynnau ar deithiau cerdded / hanes cyffredinol yr ardal
Paratoi adnoddau addysgol
Gosod arwyddion
Gwella dehongliadau hanesyddol
Sefydlu gwefan
Hwyluso’r trefniadau i gynnig cyfnod cyfnewid i fyfyrwyr rhwng Avoca ac Amlwch.

 

Buddion Economaidd TGCh Cydlyniad