
Canolfan Ymwelwyr English
| Ym mhorth Amlwch mae sawl adeilad
gwreiddiol ar gael o hyd i’w harchwilio, fel y Cistiau Copr, y Ty
Gwylio a Simneiau’r Gweithdai. Yng Nghanolfan Ymwelwyr y Llofft
Hwyliau cewch bryd blasus neu browla o gwmpas y siop anrhegion. Ond
peidiwch ag anghofio am yr arddangosfa o dreftadaeth adeiladu llongau
byd enwog Amlwch. Mewn gwirionedd, lle gwych yw’r Porth i ymlacio a
gwylio gweithgarwch yr harbwr! Mae trywydd Treftadaeth Porth Amlwch yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Môn ac yn hawdd i’w gyrraedd o’r porthladd. Mae pob rhan o Deyrnas Copr Amlwch yn agored bod dydd unrhyw amser, ond am Ganolfan Ymwelwyr y Lloft Hwyliau sydd ar agor: Tan Pasg : 10 - 5 Dydd Sadwrn & Dydd Sul Pasg i ddiwedd Hydref: 10 - 5 bob dydd Am amseroedd agor eraill 01407 832255
|
![]() |




