
Treftadaeth Copr Celtaidd English
Prosiect Ewropeaidd ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch a Bwrdd Pysgodfeydd Rhanbarth y Dwyrain a ariennir gan Interreg IIIA. Bwriad y prosiect yw manteisio ar dreftadaeth mwyngloddio copr, Swydd Wicklow yn Iwerddon, ac Amlwch ar Ynys Môn, yng ngogledd orllewin Cymru. Y bwriad yw cynhyrchu effaith cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol gadarnhaol yn y ddwy ardal drwy gadw, adfer a dehongli sawl agwedd ar y cymunedau mwyngloddio hyn. Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch a Bwrdd Pysgodfeydd Rhanbarth y Dwyrain yn cydweithio, gan ganolbwyntio ar y meysydd a ganlyn: Twristiaeth – Codi ymwybyddiaeth o’r lleoedd fel cyrchfannau i ymwelwyr er mwyn sefydlu cynaladwyedd economaidd atyniadau treftadaeth mwyngloddio Avoca ac Amlwch. Y prif ganolbwynt yw denu twristiaid i’r ardal drwy ddosbarthu taflenni, digwyddiadau i dwristiaid, arwyddion, teithiau cerdded tywysedig, a gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus. Ymchwil amgylcheddol – sy’n cael ei ariannu dan brosiect Treftadaeth Copr Celtaidd, mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Cymru yn cydweithio gydag Unipure, cwmni Cymreig yn y sector preifat, i reoli a thrin dŵr mwynglawdd sy’n llifo o Fynydd Parys, yn ymyl Amlwch. Gallai’r wybodaeth a geir gael ei drosglwyddo a’i ddefnyddio mewn ardaloedd mwyngloddio eraill. Dysgu – Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i ddefnyddio’r adnoddau addysgol sydd ar gael ar y wefan (www.copperkingdom.co.uk), fforymau trafod ar-lein ac ymweld â’r ardaloedd mwyngloddio. Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC) yn cydweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru i godi ymwybyddiaeth am hanes mwyngloddio Mynydd Parys ymysg athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhagwelir y bydd modd trefnu ymweliadau cyfnewid myfyrwyr rhwng y ddau safle hefyd. Cadwraeth Treftadaeth – cadw’r pyllau gwaddod sy’n hanesyddol bwysig, arolygu, dewis, dileu a chadw fel bo angen er mwyn eu defnyddio fel pyllau arddangos at ddibenion addysg a thwristiaeth. |
![]() |
