
Cysylltiadau hanesyddol ag Avoca English
| Cysylltiadau hanesyddol ag Avoca, Swydd Wicklow,
Iwerddon. Mae llawer o nodweddion sy'n debyg rhwng mwyngloddiau Avoca ac Amlwch ac felly llawer i’w rannu ac i fanteisio arno yn y dyfodol. Yn ddaearyddol, mae’r ddwy ardal yn rhannu creigiau’r Oes Palalosöig Isaf sy’n cynnwys haenau folcanig a gwaddodol. Erbyn dechrau cyfnod olaf y 18fed ganrif, meddiannodd Charles Roe & Co, a oedd eisoes wedi darganfod y gwaddodion mwynau ar Fynydd Parys, fwyngloddiau Avoca ym 1767 pan ddaeth eu prydles mwyngloddio ar Ynys Môn i ben. Oherwydd y datblygiad a ddigwyddodd o ganlyniad i hyn yn y diwydiant mwyngloddio copr cafwyd cymunedau gyda phroffiliau cymdeithasol a diwylliannol tebyg iawn ac mae ôl hyn i’w gweld yn y ddwy ardal sy’n cynnwys olion penodol o’r gorffennol, yn yr adeiladau, yr adfeilion, y gwaith mwyngloddio a’r tirlun. Hefyd, ysgrifennwyd llawer am eu hanes ac mae hyn yn creu cyfle i dwristiaeth etifeddiaeth a datblygiad cymunedol a gwledig. |
![]() |
|||||||||
|
||||||||||


